Cyflwyniad

Rhif y ddeiseb: P-05-1012

Teitl y ddeiseb: Therapi mewn siambr ocsigen i gleifion ffibrmyalgia wedi’i hariannu drwy’r GIG

Testun y ddeiseb:Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu therapi mewn siambr ocsigen i ddioddefwyr Fibromyalgia, wedi’i hariannu drwy'r GIG.

Mae gwaith ymchwil wedi’i wneud i therapi mewn siambr ocsigen a dangoswyd ei fod yn lleihau symptomau ffibrmyalgia ac yn helpu pobl i ddod yn rhydd o feddyginiaeth, sydd, er y gall meddyginiaeth helpu, yn gallu cynnwys sgil-effeithiau annymunol.

Mae’r astudiaethau hyn yn cynnwys https://journals.plos.org/plosone/article?id=10.1371/journal.pone.0228149

https://ard.bmj.com/content/77/Suppl_2/461.3

Mae'r astudiaethau hyn yn dangos y gallai'r driniaeth hon helpu llawer o ddioddefwyr fel fi i fyw bywyd llawnach ac iachach ac fe hoffem ni, sydd wedi llofnodi isod, gael y cyfle i gael y driniaeth hon.

 

Cefndir

Fibromyalgia

Yn ôl GIG 111 Cymru, mae Fibromyalgia, a elwir hefyd yn syndrom ffibrmyalgia (FMS), yn gyflwr hirdymor sy'n achosi poen ledled y corff. Yn ogystal â phoen eang, efallai y bydd gan bobl â ffibrmyalgia hefyd:

Cynghorir unigolion sy'n credu y gallai fod ganddynt ffibrmyalgia i ymweld â meddyg teulu, er y gall fod yn gyflwr anodd i wneud diagnosis ohono. Nid oes prawf penodol ar gyfer y cyflwr, a gall y symptomau fod yn debyg i nifer o gyflyrau eraill. Nid yw union achos ffibromyalgia yn hysbys, ond credir ei fod yn gysylltiedig â lefelau annormal o gemegion penodol yn yr ymennydd a newid yn y ffordd y mae'r system nerfol ganolog yn prosesu negeseuon poen a gaiff eu cludo o amgylch y corff.

Mae triniaeth ar gael i leddfu rhai o'i symptomau, er eu bod yn annhebygol o ddiflannu'n llwyr. Mae triniaeth yn tueddu i fod yn gyfuniad o:

Mae Fibromyalgia Action UK yn adrodd bod y cyflwr i’w weld mewn tua 2% o'r boblogaeth, a’i fod yn effeithio ar ddynion, menywod a phlant o bob oed a hil a lefel economaidd, a bod tua 14,000 o bobl yn cael diagnosis yn y DU bob blwyddyn. Gall symptomau ddechrau ar unrhyw oedran, ond yn bennaf rhwng 20 a 60 oed, ac mae'n effeithio ar fenywod yn fwy na dynion ar  gymhareb o 9 i 1.

Triniaeth Ocsigen Hyperbarig (HBOT)

Mae Triniaeth Ocsigen Hyperbarig (HBOT) yn golygu anadlu ocsigen pur ar bwysau uwch na pwhysau atmosfferig mewn siambr gaeedig am gyfnod o 60 i 90 munud fel arfer. Mae'r broses hon yn peri i ocsigen gael ei amsugno gan holl hylifau'r corff a chan bob cell a meinwe yn y corff, hyd yn oed y rhannau hynny y mae’r llif wedi’i gyfyngu neu ei atal.

Tystiolaeth gyhoeddedig

Mae'r ddeiseb wreiddiol yn cynnwys lincs i ddwy astudiaeth:

Mae'n bosibl canfod astudiaethau ymchwil cyhoeddedig eraill; mae rhai'n dadlau dros fudd HBOT wrth drin ffibromyalgia, ond mae eraill hefyd yn nodi meysydd i'w hastudio ymhellach:

Nid yw hyn yn cynrychioli adolygiad cynhwysfawr o'r llenyddiaeth gyhoeddedig, sy'n ymddangos fel pe bai iddo sail dystiolaeth gyfyngedig ond sy'n dod i'r amlwg. Ni fu'n bosibl canfod unrhyw dystiolaeth gyhoeddedig ar ffibrmyalgia a HBOT gan y Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG), y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE), ac nid yw ychwaith wedi'i gynnwys yn Llyfrgell Cochrane.

Yn dilyn ymgynghoriad yn 2018 ar Adolygu Gwasanaethau Ocsigen Hyperbarig  cyhoeddodd GIG Lloegr sawl Polisi Comisiynu newydd ym is Gorffennaf 2018 ar gyfer HBOT ac mae wedi cadarnhau cyllid rheolaidd ar gyfer y ddau gyflwyr brys canlynol yn unig:

·         Salwch datgywasgiad (DCI);

·         Emboledd Aer / Nwy.

Ymateb Llywodraeth Cymru i’r ddeiseb

Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at y ffaith ei bod yn dibynnu ar gyngor arbenigol NICE ac AWMSG, a dywed:

Nid yw canllawiau NICE yn argymell therapi ocsigen fel defnydd effeithiol o adnoddau'r GIG; ac nid ydym ychwaith yn ymwybodol o'r dystiolaeth o effeithiolrwydd therapi ocsigen i bobl sy'n byw gyda ffibrmyalgia.

Mae'r ymateb hefyd yn cynnwys canllawiau gan Bwyllgor Gwasanaethau Arbenigol Iechyd Cymru sy'n amlinellu'r cyflyrau y dylid darparu HBOT ar eu cyfer, sy'n cynnwys:

·         Dangosyddion brys:

-   Salwch datgywasgiad (DCI);

-   Meddwdod carbon monocsid;

-   Heintiau anaerobig neu feinwe meddal cymysg sy'n bygwth bywyd;

-   Anafiadau gwasgfa ac isgemia trawmatig eraill sy’n bygwth cylchrediad.   

·         Dangosyddion dewisol:

-    Wlserau traed diabetig;

-    Osteoradionecrosis (ORN) y pen a'r gwddf;

-    Atal osteoradionecrosis ar gyfer llawdriniaeth ar y pen a'r gwddf;

-    Difrod ymbelydredd meinwe meddal i’r meinwe;

-    Osteomyelitis atblygol cronig.

Mae WHSSC hefyd wedi cyhoeddi fersiwn fanylach o'r canllawiau ar gyfer HBOT (Gorffennaf 2019). Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn nodi ymhellach:

... bod y rhan fwyaf o'r adnoddau ar draws Llywodraeth Cymru a'r GIG yng Nghymru bellach wedi'u hanelu at fynd i'r afael â Covid-19 ac atal ail don yn y dyfodol.  Felly, gobeithio eich bod yn deall na allwn, ar hyn o bryd, ystyried yr ymchwiliad pellach i therapi ocsigen ar gyfer ffibrmyalgia.

Fodd bynnag, mae ymateb Llywodraeth Cymru yn nodi, lle nad yw meddyginiaethau ar gael fel mater o drefn o fewn GIG Cymru, y gall clinigwyr wneud cais am y feddyginiaeth ar ran eu cleifion drwy wneud Cais Unigol am Gyllid Cleifion (IPFR).  Byddai angen i'r clinigwyr ddarparu digon o dystiolaeth i ddangos effeithiolrwydd clinigol a chost-effeithiolrwydd y driniaeth arfaethedig

Yn gynharach yn 2020 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddatganiad yn nodi ei bwriad i uno tri grŵp cynghori presennol (Poen Parhaus, Arthritis, a Syndrom Blinder Cronig/ME a ffibrmyalgia) yn un grŵp cynghori. Byddai hwn yn adrodd i'r Prif Swyddog Meddygol ar faterion sy’n gyffredin i’r cyflyrau, yn ogystal â materion arbennig sy'n ymwneud â chyflyrau penodol. Y gobaith oedd y byddai'r grŵp newydd yn cael ei sefydlu erbyn mis Ebrill 2020, er y gallai coronafeirws fod wedi ymyrryd yn ei waith. Fodd bynnag, mae ymateb Llywodraeth Cymru i'r ddeiseb hon yn nodi:

Pan fydd gwasanaethau arferol yn gallu ailddechrau, byddwn yn gweithio gyda'n gilydd i barhau i ystyried y driniaeth a'r cymorth mwyaf priodol i gleifion ffibrmyalgia.